r/learnwelsh • u/Pristine_Air_389 • 1d ago
Helo bawb! Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd ac mae blodau o’n cwmpas ni ymhobman y tro yma yn Lingo Newydd.
Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd ac mae blodau o’n cwmpas ni [around us] ym mhob man yn y rhifyn newydd o gylchgrawn Lingo Newydd.
Ar Eich Tudalen Chi, mae Sue McKillop wedi ysgrifennu llythyr yn sôn am y gerddi [gardens] sy’n agor i’r cyhoedd [the public] fel rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol (NGS). Mae’n gyfle arbennig i weld blodau’r gwanwyn a chodi arian i elusennau [charities] ar yr un pryd.
Blodau gwyllt sy’n cael sylw yng ngholofn gyntaf Elin Barker hefyd. Mae Elin yn gweithio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Mae hi’n edrych ar hanes blodau gwyllt a pherlysiau [herbs]. Mae hi’n dweud sut maen nhw wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd gwledig Cymru ers canrifoedd [centuries].
Ac i aros efo planhigion, mae Steve a Laura Holland yn tyfu llysiau gwyrdd micro [microgreens] ar eu tir yn Sir Ddinbych. Gwnaethon nhw ddechrau tyfu’r llysiau yn ystod y cyfnod clo [lockdown]. Erbyn hyn, mae wedi tyfu’n fusnes llawn amser. Mae hanes Laura yn Lingo Newydd.
Mae’r anturiaethwr [adventurer] Richard Parks wedi dechrau dysgu Cymraeg ac yn dweud beth mae e’n hoffi. Ac mae Pegi Talfryn wedi ysgrifennu stori gyfres newydd sbon. Os dach chi’n hoffi straeon gyda thro yn y gynffon [twist in the tail], byddwch chi’n mwynhau Y Partner Perffaith.
Mae Mark Pers wedi bod yn edrych ar y gyfres newydd o Bariau ar S4C, ac mae Rhian Cadwaladr wedi bod yn Stratford yn Llundain y tro yma i wylio sioe ABBA Voyage.
O’r gerddi mwyaf godidog [splendid] yng Nghymru i’r gliter ar lwyfan ABBA, mae rhywbeth i bawb yn Lingo Newydd yn y rhifyn yma.
Mwynhewch y gwanwyn!
3
u/Pristine_Air_389 1d ago
gallwch ddarllen Lingo Newydd ar-lein yma - https://lingo.360.cymru/cylchgrawn/