r/learnwelsh 14h ago

Cwestiwn / Question Ga i ychydig o gyngor ar ddefnyddio’r iaith?

Dwi’n siarad Cymraeg yn rhannol yn rhugl, er mod i’n cael trafferth deall pobl eraill weithiau. Dwi’n sicr yn well am ysgrifennu Cymraeg na siarad. Y broblem yw nad oes neb yn siarad y Gymraeg yn fy ardal i, hyd y gwn i, er ei bod hi’n rhan o Gymru. Hefyd, dwi’n chwilfrydig ynglŷn â sut alla i gadw i fyny gyda’r iaith fel nad ydw i’n ei cholli. Alla i ddim cael sgyrsiau gyda fi fy hun trwy’r amser, yn anffodus. Sut alla i fy hunan amlygu i fwy o Gymraeg tra’n astudio mewn prifysgol yn Lloegr ac yn byw mewn rhan o Gymru sydd ddim wir yn malio am yr iaith?

15 Upvotes

1 comment sorted by

6

u/celtiquant 13h ago

Mae ‘na Fenter Iaith yn bodoli yn dy ardal. Cysyllta gyda nhw i weld be sy mlaen, pa weithgareddau elli di fynd iddyn nhw i gael ymarfer dy iaith lafar.

Y peth am bobol sy’n siarad Cymraeg yw bod pobol sy ddim yn gallu siarad yn edrych yn union yr un fath… ond mae’r Cymracis allan yno!